www.cadfarch.co.uk

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
Home Our Patron

Noddwraig

E-mail Print PDF

Shân Cothi (English)

shan_cothi_smallMae Ceffylau Cadfarch yn falch iawn o gyflwyno Shân Cothi, fel ein noddwr.  Mae pawb yn ei hadnabod trwy’r wlad fel cantores opera heb ei hail, actores a chyflwynwraig wych ac yn bwysicach i ni, ei chrefft o drin a thrafod ceffylau – yn enwedig ei cheffyl, Caio.

Yn ogystal, mae wedi ennill dim llai na’r Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cymeryd rhan mewn sioeau cerdd yn y ‘West End’ Llundain yn cynnwys y prif rhan yn ‘Phantom of the Opera’,  cyflwyno rhaglenni teledu a radio ei hunan ac yn olaf, chwarae un o brif rannau ‘Con Passionate’ ar S4C.  

Cafodd Shân golled bersonol enfawr yn 2007 pan fu farw ei gŵr, Justin Smith, o gancr y pancreas ac yntau  ond yn 42oed.  Ar ôl brwydr galed, bu farw Justin – golygydd teledu ac yn chwarae bâs mewn grwp o’r enw Tigertailz, ym mis Medi 2007.  Wedi colli Justin, penderfynodd Shân a’i ffrindiau drefnu elusen gofrestredig o’r enw ‘Amser Justin Time’.  

Yn ferch i ffarier a gôf o orllewin Cymru, mae ceffylau wedi chwarae rhan holl bwysig ym mywyd Shân ers yn ifanc iawn.  Ond yn 2008 aeth ati i drefnu marathon o 300 milltir ar ei cheffyl, Caio, drwy ganol Cymru – o’r Gogledd i’r De er mwyn codi ymwybyddiaeth at cancr pancreatgc a chodi arian ar gyfer ‘Amser Justin Time’. 

Ar 16 Awst 2009, mae Ceffylau Cadfarch yn trefnu reid arbennig i Shân er mwyn codi arian i’r elusen yma.  Fe fydd Shân, a’i cheffyl ‘Caio’ a llawer o’i chefnogwyr yn ymuno efo ni ar y reid pymtheg milltir yma.  Fe fydd y reid ar agor i bawb gan obeithio y bydd ein haelodau yn croesawu Shân ac yn codi arian i’r elusen arbennig yma. 

Fe fydd y reid yn cael ei chynnal llaw yn llaw gyda Ffair Wledig yn Llynlloedd, ger Machynlleth ar Ddydd Sul, 16 Awst 2009. 

Sylwadau Shân fel ein noddwr: 

“Dwi wrth fy modd fel noddwr i Geffylau Cadfarch Riders.  Criw o farchogwyr brwdfrydig sy’n gwneud gwaith ffantastig.  Mae eu gwaith o godi ariad at elusennau amrywiol i’w longyfarch.  Rydym ni sef elusen ‘Amser Justin Time’ (Elusen Cancr Pancreatig Cymru) – er côf am fy ngwr, Justin Smith, a bu farw’n drist o gancr pancreatig yn 42 oed, yn ddiolchgar ac yn llawn balchder o’r gefnogaeth. 

Roedd ail ddechrau reidio yn grêt imi a phrynu Caio wedi bod yn brofiad gwefreiddiol ar adeg llawn tristwch a thor calon.  Mae’n ffordd unigryw o ymarfer a chreu cyfleoedd gwych i weld ardaloedd hyfryd a bendigedig sydd ar gael yng Nghymru. 

Nid pawb sy’n ymwybodol o’n cysylltiad gyda cheffylau ond yn ferch i ffarier rydw i wedi hen arfer gyda’m traed yn wirioneddol ar y ddaear.  Dywed fy nhad ‘Dim troed, dim ceffyl’ felly maddewch imi os edrychaf eich traed yn gyntaf! 

Edrychaf ymlaen ynghyd a thîm ‘Amser Justin Time’ at ymchwilio ardal Machynlleth gyda Cheffylau Cadfarch.

Pob lwc yn y dyfodol a llawer o hwyl yn marchogaeth.  
 Diolch o galon a phob lwc i Cadfarch. 

Shân Cothi a chriw ‘Amser Justin Time’ x.

   

     

 

 

 

 

 
Ceffylau Cadfarch Riders sponsors:
Banner

Events Calendar

<<  Jul 10  >>
 Mo  Tu  We  Th  Fr  Sa  Su 
     1  2  3  4
  5  6  7  8  91011
12131415161718
19202122232425
262728293031 

Cadfarch Weather

Friday 30.07.2010
Rainfrom west-southwest18°C4.7m/s
0.8mm
Saturday 31.07.2010
Partly cloudyfrom west17°C5.0m/s
0.7mm
Sunday 01.08.2010
Cloudyfrom west-northwest17°C4.2m/s
0.2mm
Weather forecast from yr.no